Y Grŵp Trawsbleidiol ar Fioamrywiaeth

 

Dydd Mercher 3 Chwefror 2016 12.15 – 13.15

 

Ystafell Gynadledda 24, Tŷ Hywel, Caerdydd

COFNODION

Yn bresennol

 

Russel Hobson

Steve Lucas

Nigel Ajax-Lewis

Scott Fryer

Andrew Whitehouse

Clare Dinham

Natalie Buttriss

Dr Jenny McPherson

Sinead Lynch

Rowland Pittard

Sean McHugh

Rosanna Raison

Karen Whitfield

Lydia Beaman

Chris Tucker

Llyr Gruffydd AC

William Powell AC

Dai Harris

Steve Spode

Luke Nicholas

Nia Seaton

Rachel Prior

Ben Lake

 

Ymddiriedolaeth Gwarchod Glöynnod Byw

Gwarchod ystlumod

Ymddiriedolaethau Natur Cymru;

Ymddiriedolaethau Natur Cymru;

Buglife

Buglife

Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Vincent

Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Vincent

Gwarchod Cacwn

Cymdeithas Hostelau Ieuenctid

Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru

Ymchwilydd, William Powell AC

Cyswllt Amgylchedd Cymru

Cyswllt Amgylchedd Cymru

Cyfoeth Naturiol Cymru

Cadeirydd

Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Llywodraeth Cymru

Llywodraeth Cymru

Ymchwilydd Plaid Cymru

Y Gwasanaeth Ymchwil

Y Gwasanaeth Ymchwil

Ymchwilydd Plaid Cymru

 

 

(RH)

(SL-2)

(NA-L)

(SF)

(AW)

(CD)

(NB)

(JM)

(SL-1)

(SM)

 

(KW)

(LB)

(CT)

(LG)

(WP)

(DH)

 

 

 

 

 

 

 

Y prif bwyntiau

 

1-    Cyfarfod cyffredinol blynyddol

 

·         Dywedodd LG y bydd yr holl Grwpiau Trawsbleidiol yn dod i ben wrth inni nesáu at ddiwedd tymor y Cynulliad hwn. Felly ar ôl yr etholiad, bydd angen ailsefydlu’r Grŵp Trawsbleidiol hwn ar Fioamrywiaeth. Cadarnhaodd LG y byddai'n hoffi gweld Grŵp Trawsbleidiol newydd ar Fioamrywiaeth a chaiff hyn ei ystyried eto ar  ôl yr etholiad.

·         Cyflwynodd RH gynnig WEL i ddarparu cymorth ysgrifenyddol a chynigiodd LG gadeirio’r Grŵp Trawsbleidiol am weddill y Cynulliad hwn. Cynigiodd SL y dylai LG barhau’n gadeirydd os caiff y Grŵp Trawsbleidiol ei ail-lansio yn y dyfodol ac eiliodd SF y cynnig. Diolchodd LG i bawb am eu cefnogaeth.

 

2 – Crynodeb o waith y Prosiect Rhywogaethau Daearol

 

·         Croesawodd RH y cyflwyniadau ar y prosiect rhywogaethau daearol, yn dangos buddion ehangach prosiectau bywyd gwyllt a manteision ennyn diddordeb y cyhoedd.

 

·         Prosiect adfer bele’r boed – y buddion i Gymru: cyflwyniad gan Natalie Buttriss a Dr Jenny McPherson, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Vincent

 

 

Er bod bele’r coed yn gyffredin iawn yn y DU yn y gorffennol, erbyn 1915, roeddent bron â diflannu ym mhob man heblaw’r Alban, a dim ond mewn ambell ran o ucheldir Cymru a gogledd Lloegr roeddent i’w cael. Gan nad yw’r niferoedd i’w gweld yn cynyddu, mae Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Vincent (VWT) yn  gweithio i’w hailsefydlu yng Nghymru a Lloegr. Mae'r prosiect yn cael ei gynnal yn unol â chanllawiau trawsleoli rhywogaethau’r IUCN a phenderfynwyd eu cyflwyno yng nghanolbarth Cymru. Mae rhaglen gwerth £1.4 miliwn wedi dechrau a bydd yn para am 7 mlynedd. Yn 2015, trawsleolwyd 20 o felaod o'r Alban i ganolbarth Cymru a chafodd 20 arall eu rhyddhau yno yn 2016. Hyd yn hyn, maent i gyd wedi setlo yn yr ardal lle cawsant eu rhyddhau. Yn Iwerddon, gwelwyd cydberthynas arwyddocaol rhwng cynnydd yn nifer y belaod a gostyngiad yn nifer y gwiwerod llwyd. Mae ymchwil yn cael ei gynnal i hyn yng nghanolbarth Cymru i weld a yw'r un effaith i’w weld yno hefyd. Mae hwn yn brosiect allweddol sy’n hybu’r polisi adfer natur.   

 

 

·         Monitro cacwn - Caneris yn y pwll glo: cyflwyniad gan Sinead Lynch, Ymddiriedolaeth Cadwraeth Cacwn

 

Mae cacwn yn greaduriaid sy’n dirywio’n frawychus o gyflym drwy Ewrop gyfan. Yn benodol, dim ond ar arfordir gogleddol rhai o ynysoedd yr Alban y mae un rhywogaeth, sef y bombus distinguendus,  i’w gweld yn awr. Roedd y rhywogaeth hon i’w gweld yn eang drwy’r DU gyfan yn y gorffennol ond, oherwydd dirywiad yn eu cynefin, mae’r niferoedd wedi gostwng yn ddramatig yn y rhan fwyaf o ardaloedd. Yn yr un modd, roedd y gardwenynen feinlais yn gyffredin iawn ers talwm ond, yn ystod y ganrif ddiwethaf, gwelwyd y rhywogaeth yn crebachu’n ddifrifol, ac erbyn hyn, hon yw’r wenynen brinnaf yn y DU. Dim ond mewn saith ardal yn y DU y mae’r gardwenynen feinlais i’w gweld yn awr, a hynny yn ardaloedd y de, (Gwent, Morgannwg a Sir Benfro yng Nghymru). Y prif reswm dros eu dirywiad yw diflaniad dolydd llawn blodau, dulliau ffermio dwys ac arferion pori. Gan fod cacwn yn bwydo ar flodau gwyllt, maent yn ddangosyddion amgylcheddol da iawn, ac yn ein helpu i fesur ‘naturioldeb’ ardal. Cacwn yw'r unig bryfed sy'n gallu peillio tomatos, mafon a chnydau eraill, felly maent yn hanfodol i'n diogelwch bwyd, ac yn rhywogaeth y dylem roi blaenoriaeth iddynt o safbwynt cadwraeth. I gefnogi’r Cynllun Adfer Natur, mae’r Ymddiriedolaeth Cadwraeth Cacwn yn rhedeg cynllun monitro 'Beewalk'; bydd gwirfoddolwyr o bob rhan o’r DU yn ymuno ar deithiau cerdded dan arweiniad i gofnodi rhywogaethau yn ogystal â datblygu sgiliau newydd fel rheoli cynefinoedd. Mae croeso i chi ymuno, felly ewch ati i gofrestru!

 

 

 

 

·         Cwestiynau

 

1.    Nododd AW fod problem yn ymwneud â diffyg data am niferoedd. Cytunodd SL-1 y gallai'r un pwyntiau data mewn un lleoliad gyfeirio at lefel hollol wahanol mewn lleoliad arall.

 

1.       Dywedodd SL-2 ei fod wedi cael ymateb gwych gan y cyhoedd / y gymuned i brosiectau gwyddoniaeth cyhoeddus. Soniodd SL-1 am yr ymateb da a gafwyd i’r arolwg o wirfoddolwyr Beewalk, a’r ffaith bod gwirfoddolwyr yn hoffi bod yn yr awyr agored, ond hefyd yn falch o deimlo’u bod yn cyfrannu at rywbeth 'mwy' - maent am wybod y bydd eu data’n cael ei ddefnyddio at ddibenion penodol.

 

2.    Cyfeiriodd SM at yr ymchwil a ddangosodd bod cyflwyno bele’r coed mewn ardal o fudd i wiwerod coch a gofynnodd a fu unrhyw astudiaethau ar yr effeithiau ar rywogaethau eraill. Atebodd JM y byddech yn disgwyl effaith a manteision anuniongyrchol ac mai un ddamcaniaeth yw’r hyn a elwir yn rhaeadrau troffig. Gofynnodd LG a oeddent yn trin hyn fel dull rheoli penodol neu fel sgil-gynnyrch cynlluniau trawsleoli. Nid yw'n dechneg reoli benodol ond mae’n sicr yn un o’r effeithiau a ragwelwyd ac sydd o fudd i’r ecosystem.

 

3.    Holodd SB am niferoedd bele'r coed. Dywedodd JM fod eu nifer yn amrywio gan ddibynnu ar ansawdd y cynefin ond, ar gyfartaledd mae tua 1 bele'r coed am bob 2 cilomedr sgwâr. Mae bele’r coed yn byw ar ei ben ei hun heblaw am gyfnod byr ar ddiwedd yr haf pan maent yn paru.

 

4.       Gan gyfeirio at y prosiect yng nghanolbarth Cymru, gofynnodd LG pryd y gellid efelychu hyn mewn ardaloedd eraill? Dywedodd JM ei bod yn bwysig iawn monitro’n ofalus ar hyn o bryd, gan ystyried oedran, niferoedd, nifer y benywod, cyfradd marwolaethau ac ati, ond y byddant yn ychwanegu 20 arall eleni. Mae dadansoddiad o hyfywdra poblogaethau’n awgrymu y gall y nifer hwn gynefino’n llwyddiannus.  Gofynnodd LG a oes lleoliadau eraill mewn golwg, a dywedodd JM eu bod yn ystyried hyn.

 

5.    Gofynnodd AW a oeddent yn cael eu diogelu’n gyfreithiol. Dywedodd fod y rhan fwyaf o dirfeddianwyr wedi croesawu prosiectau i gyflwyno cimychiaid yr afon ond tybed a oedd tirfeddianwyr yn fwy amheus yn achos bele’r coed? Dywedodd JM eu bod wedi’u diogelu ond mae darpariaethau cyfreithiol i’w gwahardd  o dai y mae pobl yn byw ynddynt, ychwanegodd NB fod taflen ar hyn ac ar sut i atal  bele'r coed rhag cael eu dal mewn maglau ar gyfer rhywogaethau eraill.

 

6.       Dywedodd LG nad oedd wedi clywed y term 'naturioldeb' o’r blaen a holodd a oedd hwn yn derm neu’n ddangosydd penodol? Dywedodd SL-1 ei bod yn defnyddio'r term i gyfeirio at dirwedd fwy heterogenaidd, gydag amrywiaeth o gynefinoedd naturiol.

 

7.       Gofynnodd DH beth y gellid ei wneud i wella pethau i beillwyr. Sut allwn ni annog rhagor i ymuno â Glastir? A oes opsiynau yn Glastir ar gyfer peillwyr? Dywedodd SL-1 nad yw’r opsiynau yn Glastir yn effeithiol ar gyfer peillwyr oherwydd y ffordd y mae’r opsiynau wedi’u rhagnodi, ond nid oedd digon o ffermwyr ychwaith yn ymuno â Glastir, ac o'r rhai sy'n gwneud hynny, nid oes digon yn manteisio ar yr opsiynau i ddenu peillwyr. Dywedodd AW nad yw cynlluniau amaeth-amgylcheddol yn ddigonol gan eu bod yn rhy gyfyng ac nid ydynt yn creu cynefin nythu. Hefyd, prin yw’r rhywogaethau sy’n defnyddio’r adnodd hwn ac ni fydd felly yn hybu’r gwaith o adfer rhywogaethau. Mae angen lleiniau parhaol lle mae blodau gwyllt yn tyfu. Cytunodd SL-1 a dywedodd fod ychydig o’r llecynnau hyn mewn tirwedd yn mynd yn bell.

 

 

3 - Sylwadau i gloi

 

Dywedodd LG mai’r bwriad pendant oedd ailsefydlu'r Grŵp Trawsbleidiol ar ôl yr etholiad a bydd y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a Deddf yr Amgylchedd yn rhoi fframwaith ar gyfer gweithredu llawer mwy cadarn: dyma y mae angen canolbwyntio arno dros y blynyddoedd nesaf.